Nodiadau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Nyrsio a Bydwreigiaeth

17 Mawrth 2015

 

Yn bresennol: Julie Morgan AC (Cadeirydd),

Tina Donnelly CBE, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) Cymru (ac Ysgrifennydd y Grŵp)

Kirsty Williams AC

Darren Millar AC

Elin Jones AC

David Rees AC

Andrew RT Davies AC

Christine Edwards-Jones, Aelod o Fwrdd RCN Cymru

Fran Harries, Siaradwr Gwadd

Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a 

Richard Jones MBE,

Yr Athro Fonesig June Clark

Rory Farrelly, Cyfarwyddwr Nyrsio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Denise Llewellyn, Cyfarwyddwr Nyrsio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Paul Labourne - Cyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

John Williams - Ymchwilydd i Kirsty Williams AC

Sian Giddins - Dirprwy Glerc, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Susan Edmunds, Cynghorydd, y Coleg Nyrsio Brenhinol

Ray Harries

Liam Anstey, Cynorthwy-ydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

(Cofnodion)

           

Ymddiheuriadau: Janet Finch-Saunders AC, Angela Burns AC, Mick Antoniw AC, Aled Roberts AC, Gaynor Jones - Cadeirydd Bwrdd RCN Cymru, Kate Parry - Is-gadeirydd Bwrdd RCN Cymru, Christine Thomas - Aelod o Gyngor RCN Cymru, Ruth Walker, Cyfarwyddwr Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,  Caroline Oakley, Cyfarwyddwr Nyrsio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                                                                                                                               

 

1.            Croeso gan Julie Morgan AC, y Cadeirydd

 

Croesawodd Julie Morgan AC bawb i’r cyfarfod. 

 

2.            Sylwadau Agoriadol gan Tina Donnelly CBE, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

 

Rhoddodd Tina Donnelly gyflwyniad i’r cyfarfod ar y Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru). Hefyd eglurodd Mrs Donnelly pam mae’r RCN yn credu y dylid defnyddio deddfwriaeth i sicrhau y ceir Lefelau Diogel Staffio Nyrsio, yn hytrach nag Arweiniad Gorfodol gan y Gweinidog, a phwysleisiodd mai deddfwriaeth yn unig a wnaiff orfodi Gweinidogion yn y dyfodol i gyhoeddi canllawiau statudol a darparu parhad o ran gwaith rhwng Gweinidogion.

 

3.            Christine Edwards-Jones - Aelod o Fwrdd RCN Cymru yn trafod ei phrofiad fel Nyrs a pham fod y Bil yn angenrheidiol:

 

Amlinellodd Christine Edwards-Jones ei swydd bresennol fel Rheolwr Ward ar Ward Feddygol 40-gwely ar gyfer Pobl Hŷn. Nododd, ar gyfartaledd, fod y Gymhareb Nyrs: Cleifion yn 1:8 ar ei ward yn ystod y dydd, ac yn 1:13 yn ystod y nos. Eglurodd Ms Edwards-Jones hefyd fod y gymhareb Nyrs: Cleifion ar rai wardiau yn 01:16 yn ystod y nos. Ychwanegodd hefyd, er bod y diwylliant yn newid yn ei Bwrdd Iechyd hi, dywedodd fod deddfwriaeth yn angenrheidiol er mwyn atgyfnerthu’r newid. Gwnaeth Ms Edwards-Jones y pwynt fod nyrsys ar y ward am 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a bod diffyg nyrsys yn cael effaith uniongyrchol ar ofal cleifion.

 

4.            Fran Harries yn trafod ei phrofiad fel Nyrs ac fel claf

 

Dywedodd Fran Harries wrth aelodau’r Grŵp am ei phrofiad cadarnhaol pan oedd yn glaf yn Ysbyty Llandochau, a rhoddodd wybodaeth hefyd am ei chefndir ym maes nyrsio. Eglurodd Mrs Harries nad oedd hi wedi edrych ymlaen at gael triniaeth’ yn Ysbyty Llandochau, yn rhannol o ganlyniad i glywed straeon negyddol yn y cyfryngau am y gofal o gleifion. Fodd bynnag, eglurodd Mrs Harries ei bod wedi cael gwasanaeth a oedd, yn wir, yn ‘Wasanaeth Safon Aur’, a bod gan y nyrsys yr amser i ofalu’n iawn am y cleifion ac i gyfathrebu â hwy. Mae Mrs Harries o’r farn bod y ddeddfwriaeth yn bwysig ac yn angenrheidiol i wella Lefelau Staffio ar wardiau eraill.

 

5.            Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus - RCN Cymru, yn nodi pam y dewisodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ymgyrchu dros ddeddfwriaeth.

 

Siaradodd Lisa am gyfnod byr, gan bwysleisio’r grym sydd gan ddeddfwriaeth i greu newid. Nododd fod data’r RCN yn dangos nad yw Byrddau Iechyd erioed wedi cyflawni Cymhareb y Prif Swyddog Nyrsio.

 

 

 

 

 

6.            Trafodaeth ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, bu Julie Morgan AC yn cadeirio trafodaeth fywiog gyda chyfranogwyr ynghylch y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). 

 

Clowyd y cyfarfod yn ffurfiol gan Julie Morgan AC am 7.30pm ond arhosodd yr aelodau’n hwy i sgwrsio’n anffurfiol.